Corporate Communications Officer – The Royal Parks

Who we are
Sport Wales is the national organisation responsible for developing and promoting sport and physical activity in Wales. We are the main adviser on sporting matters to the Welsh Government and are responsible for distributing National Lottery funds. We aim to not only improve the level of sports participation at grassroots level but also provide our aspiring athletes with the support required to compete successfully on the world stage.
We value the diversity of our workforce and welcome applications from all sections of the community. Sport Wales is a progressive organisation with excellent employee benefits. We promote work life balance and offer a range of flexible approaches to support you. If you wish to work flexibly please detail this on your application form.
Engaging with our staff, partners, the media and the public in creative and innovative ways has never been more important. We need to work together to encourage people to lead physically active lives and highlight how a thriving sport sector benefits people across Wales in a multitude of ways.

What you’ll do
We have an opportunity for an experienced and driven corporate communications professional to play a key role in a busy inhouse communications and digital team.
This is a new role and you will need to be comfortable adapting and responding quickly to the needs of the organisation and our partners. Your work will focus on:
– Translating complex information into concise, compelling and thought provoking narrative to help demonstrate the benefits of sport to a broad range of stakeholders
– Developing an internal communications plan to empower colleagues to embed the Sport Wales strategy in all areas of their work
– Identifying opportunities to work with the media to promote the work of Sport Wales and our partners
– Developing a new approach to stakeholder engagement allowing our partners to interact with Sport Wales in more diverse and effective ways

What you’ll need
We are looking for candidates who have experience of developing a range of corporate communications material used on a variety of channels. You’ll need to have a proven ability to handle media issues as well as an understanding of the UK print, broadcast and social media – local, regional, national and trade and experience working with journalists.
The ability to speak Welsh is desirable, although not essential. If you have the presence and personality to work in a high performing team as well as the passion and drive to succeed, then we would love to hear from you.
Closing date: 14th June 2020
Provisional interview date: 24th June 2020
This vacancy is being advertised by Webrecruit. The services advertised by Webrecruit are those of an Employment Agency.
Teitl y swydd: Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol
Adran: Cyfathrebu a Digidol
Cyflog: Graddfa 6 £29,716.51
Oriau gwaith: 37

Pwy ydym ni
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein gweithlu ac yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned. Mae Chwaraeon Cymru yn sefydliad cynyddol gyda manteision rhagorol i gyflogeion. Rydym yn hybu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn cynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg o weithredu i’ch cefnogi chi. Os ydych chi’n dymuno gweithio’n hyblyg, manylwch am hyn ar eich ffurflen gais.
Mae gweithio gyda’n staff, partneriaid, y cyfryngau a’r cyhoedd mewn ffyrdd creadigol ac arloesol yn bwysicach nag erioed. Rhaid i ni gydweithio i annog pobl i fyw bywydau actif yn gorfforol a thynnu sylw at sut mae sector chwaraeon ffyniannus o fudd i bobl ledled Cymru mewn sawl ffordd.

Beth fyddwch yn ei wneud
Mae gennym ni gyfle i weithiwr cyfathrebu corfforaethol proffesiynol profiadol ac egnïol chwarae rhan allweddol mewn tîm cyfathrebu a digidol mewnol prysur. Mae hon yn rôl newydd a bydd rhaid i chi fod yn gyfforddus yn addasu ac yn ymateb yn gyflym i anghenion y sefydliad a’n partneriaid. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar y canlynol:
– Trosi gwybodaeth gymhleth yn naratif gryno, gadarn sy’n procio’r meddwl er mwyn helpu i ddangos manteision chwaraeon i amrywiaeth eang o randdeiliaid
– Datblygu cynllun cyfathrebu mewnol i rymuso cydweithwyr i ymgorffori strategaeth Chwaraeon Cymru ym mhob maes o’u gwaith
– Adnabod cyfleoedd i weithio gyda’r cyfryngau i hybu gwaith Chwaraeon Cymru a’n partneriaid
– Datblygu dull newydd o ymgysylltu â rhanddeiliaid fel bod ein partneriaid yn gallu rhyngweithio â Chwaraeon Cymru mewn ffyrdd mwy amrywiol ac effeithiol.

Beth fydd arnoch ei angen
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad o ddatblygu amrywiaeth o ddeunydd cyfathrebu corfforaethol sy’n cael ei ddefnyddio ar sianelau amrywiol. Bydd rhaid i chi fod â gallu clir i ddelio â materion y cyfryngau a dealltwriaeth o’r wasg yn y DU a’r cyfryngau darlledu a chymdeithasol – lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a masnach a phrofiad o weithio gyda newyddiadurwyr.
Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.
Dyddiad Cau: 14eg Mehefin 2020
Dyddiad Dros Dro y Cyfweliad: 24ain Mehefin 2020
Mae’r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Gyflogaeth.

Click here to Apply Online

Related Job Ads: